Pethau i’w gwneud
Yng Nghaerdydd, Prifddinas Cymru, ceir atyniadau unigryw, chwaraeon, diwylliant ac adloniant o'r radd flaenaf, a siopau arbennig - a'r cwbl dafliad carreg o'r safle Carafannau a Gwersyllfa. Ceir pensaernïaeth arloesol ochr yn ochr ag adeiladau hanesyddol ac mae Bae Caerdydd yn cynnig adloniant i bawb.
Os ydych yn chwilio am syniadau am sut i dreulio eich amser yng Nghaerdydd ewch i www.visitcardiff.com neu cysylltwch â'n Canolfan Croeso ar 029 20873573, neu anfonwch e-bost i ymwelydd@caerdydd.gov.uk
Bydd ein tîm yn y dderbynfa ar y safle hefyd yn hapus i helpu yn ystod eich cyfnod yn y Parc.
• Map Canol Dinas Caerdydd (cyfeirnod grid A2 yw parc Carfannau a Gwersylla Caerdydd)
• Map Bae Caerdydd