
Cyfleusterau
Mae Maes Carafannau Caerdydd wedi'i leoli mewn parcdiroedd hyfryd yng nghanol y ddinas ac mae'n llecyn perffaith ar gyfer ymweld â'r amryw atyniadau sydd yn y ddinas a'r ardaloedd cyfagos.
Mae nifer o gyfleusterau ar gael ar y safle:
- • 43 o leiniau caled unigol, pob un â chyflenwad dŵr a phwyntiau trydan 16 amp.
- • Lleiniau meddal gyda lle i 20 o garafannau.
- • 40 llain heb drydan.
- • Lleiniau meddal gyda lle i bebyll.
- • Dau floc gwasanaeth gyda chawodydd a thoiledau, un ohonynt â chyfleusterau arbennig i'r anabl a larwm panig.
- • Cyfleusterau golchi dillad a golchi llestri.
- • Wifi am ddim
- • Mae ystafell i'r teulu ar gael (gweithredir gan Pedal Power) rhwng 9.30am a 4.30pm, sy'n cynnig lluniaeth ysgafn. (Fel arfer 6/7 diwrnod yr wythnos)
- • Beiciau ar gael i'w llogi gan Pedal Power ar y safle.
- • Trefniadau monitro Teledu Cylch Cyfyng 24 awr.
- • Ceir siopau gerllaw a digon o fariau a bwytai yn yr ardal gyfagos.
- • Dim ond 0.6m o ganol y ddinas.
Oriau Swyddfa
Llun - Iau 09:00 - 17:00
Gwener 09:00 - 20:00
Sadwrn - Sul 09:00 - 17:00